Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Amdan Safonau Masnach Cymru


Amdan Safonau Masnach Cymru

Mae Safonau Masnach Cymru (TSW) yn cynrychioli'r 20 gwasanaeth Safonau Masnach Awdurdodau Lleol ledled Cymru. Rydym yn rhannu ymgyrchoedd gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ledled y wlad i amddiffyn defnyddwyr a diogelu busnes cyfreithlon.


Ein cyfrifoldebau

Mae buddion cydweithio a chydlynu ar draws y rhanbarth yn cynnwys codi proffil Safonau Masnach.

Mae Safonau Masnach Cymru yn cydlynu cyngor a gorfodi deddfau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae nwyddau a gwasanaethau'n cael eu gwerthu, eu rhentu a'u llogi i ddefnyddwyr. Mae swyddogion Safonau Masnach Lleol yn cynnal arolygiadau ac yn monitro neu'n ymchwilio i gwynion.

Rydym yn ymdrechu i weithio gyda busnesau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth ond yn y pen draw, gallwn erlyn y rhai sy'n torri'r gyfraith.

Gyda'i gilydd, mae Safonau Masnach Cymru yn mynd i'r afael ag ystod eang o faterion gan gynnwys; diogelwch cynnyrch, troseddau stepen drws a sgamiau, gwerthu dan oed, nwyddau ffug a masnachu annheg yn ogystal â safonau bwyd a deddfwriaeth bwyd anifeiliaid.

Cliciwch yma i weld ein hadroddiad Effeithiau a Chanlyniadau ar gyfer 2021/22, yn ogystal â'r ffeithlun cysylltiedig

Gweler ein Datganiad Sefyllfa Safonau Masnach Cymru, yma

Effeithiau a Chanlyniadau


Cliciwch yma i weld ein hadroddiad Effeithiau a Chanlyniadau ar gyfer 2022/23, yn ogystal â'r ffeithlun sy'n cyd-fynd ag ef.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein Datganiadau Sefyllfa Safonau Masnach Cymru:

Tybaco Anghyfreithlon

Cyfraniad at Ffyniant Economaidd

Materion newid hinsawdd

Iechyd Cyhoeddus

Diogelu


Wythnos Safonau Masnach Cymru

Yn Ebrill 2024 fe wnaethon ni ddathlu Wythnos Safonau Masnach Cymru arall.

Ewch i'n tudalenau Wythnos Safonau Masnach Cymru am fwy o wybodaeth.

Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out